Gwelais 'chydig o'r ardaloedd Yr ochor draw i angeu a'r bedd; Synodd f'enaid yn yr olwg, Teimlais annherfynol hedd: Iesu brynodd imi'r cwbl, Gwnaeth â'i waed anfeidrol Iawn; Dyma rym fy enaid euog, A fy nghysur dwyfol llawn. Wedi cefnu ar bob rhyw stormydd, A'r tonnau mawrion oll ynghyd, Tybiais fy mod yn y porthladd, Tu draw i holl ofidiau'r byd; "O! fy Nhad," medd f'enaid egwan, "A gaf ti ddyfod i dy gôl, A chanu'n iach i bob rhyw bechod, A'm cystuddiau i gyd ar ol?" "Ust! fy mhlentyn, taw, distawa, Gwybydd di mai fi sydd Dduw; Ymdawela yn f'ewyllys, Cred i'm gofal tra fych byw: Os rhaid ymladd â gelynion, Myfi, dy nerth, a fydd o'th blaid; Er gwanned wyt, cei rym i sefyll, A Mi'n gymorth wrth bob rhaid." Bodlon ddigon, doed a ddelo, Ond dy gael i mi yn Dduw: Rhoist dy Fab i brynu 'mywyd Trwy ddïoddef marwol friw; Mi lecha'n dawel yn ei gysgod - Yng nghysgod haeddiant dwyfol glwy'; Darfyddaf byth âg oll sydd isod, Ac ymhyfrydaf ynot mwy.Thomas Charles 1755-1814
Tonau [8787D]: gwelir: Boddlon fyddaf doed a ddelo Dyfais fawr tragwyddol gariad Edrych 'r wyf a hynny beunydd Wedi cefnu ar bob rhyw stormydd |
I saw a little of the regions On yonder side of death and the grave; My soul was surprise by the sight, I felt an unbounded peace: Jesus purchased for me the whole, He made with his blood an immeasurable Satisfaction; This is the strength of my guilty soul, And my full, divine comfort. Having turned my back on every kind of storm, And the great waves altogether, I supposed I was in the harbour, Beyond all the griefs of the world; "O my Father!" said my weak soul, "Shall I get to come to thy bosom, And bid farewell to every kind of sin, Leaving all my afflictions behind?" "Sush, my child! Silence, be quiet, Know thou that I am God; Quieten thyself in my will, Believe in my care while ever thou livest: If there be need to fight with enemies, Even I, thy strength, shall be on thy side; Although thou be so weak, thou shalt get power to stand, With me as a help in every need." Sufficiently content, come what may, Only to get thee as my God: Thou gavest thy Son to purchase my life Through the suffering of a mortal bruise; I shall hide quietly in his shadow - In the shadow of the merit of a mortal wound; I shall have done forever with all that is below, And boast in thee evermore.tr. 2019 Richard B Gillion |
|